Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (204) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 2 i 4 a 6 i 9. Tynnwyd cwestiynau 1, 5 a 10 yn ôl.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6, 8 i 9 ac 11 i 15. Tynnwyd cwestiynau 7 a 10 yn ôl. Atebwyd cwestiwnau 1, 3, 8, 9 and 14 gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi.
3 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Gofynnwyd y 4 cwestiwn.
4 Dadl ar Araith y Frenhines
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl.
NDM5522 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2014/2015.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm a gynigir ar gyfer Cymru, ym Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir yn fecanwaith“cyd-gerdded”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
12 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y diffyg cynigion yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU i symud ymlaen ag unrhyw feysydd datganoli pellach a argymhellwyd gan adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
26 |
17 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU fod wedi cynnwys deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn modd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn parhau i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cyhoeddiad yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar ofal plant di-dreth a fydd yn golygu y bydd oddeutu 83,600 o deuluoedd yng Nghymru yn cael budd o £2,000 oddi ar gost eu gofal plant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
9 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau Difrifol, yn dilyn yr ymgyrch gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams, yn cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod creulondeb sy’n debygol o achosi niwed seicolegol i blentyn yn drosedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
21 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r diwygiadau pensiwn chwyldroadol a gynigiwyd gan Weinidog y Democratiaid Rhyddfrydol Steve Webb sydd i’w cynnwys yn y Bil Pensiynau Preifat, a fydd yn rhoi rhyddid a diogelwch i bobl wedi ymddeol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
21 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd y Draft Governance of National Parks (England) & the Broads Bill yn cynnwys darpariaethau ar gyfer etholiadau uniongyrchol ar gyfer awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Lloegr, yn dilyn ymgyrchu gan Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, y Democrat Rhyddfrydol Roger Williams, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi diwygiadau tebyg ar waith yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
21 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU, fel yr amlinellir yn y rhaglen ddeddfwriaethol, i adfer lles ariannol yn y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd y Biliau yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn sicrhau dyfodol gwell a mwy disglair i bobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu ymhellach y lwfans personol i £10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i gynyddu trothwy’r dreth incwm i£10,000.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
21 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5522 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2014/2015.
2. Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm a gynigir ar gyfer Cymru, ym Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir yn fecanwaith“cyd-gerdded”.
3. Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU fod wedi cynnwys deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn modd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch economaidd.
4. Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau Difrifol, yn dilyn yr ymgyrch gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams, yn cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod creulondeb sy’n debygol o achosi niwed seicolegol i blentyn yn drosedd.
5. Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu ymhellach y lwfans personol i £10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i gynyddu trothwy’r dreth incwm i£10,000.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
5 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5524 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi Wythnos Gofalwyr 2014 sy'n cydnabod ac yn dathlu cyfraniad mwy na 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, sy'n darparu cymorth amhrisiadwy i deulu a ffrindiau.
2. Yn nodi'r dystiolaeth gynyddol o rôl hynod heriol gofalu, a all gael effaith andwyol ar iechyd, cyfleoedd cyflogaeth, gweithgarwch cymdeithasol a hamdden y rhai sy'n rhoi gofal yn ddi-dâl.
3. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ‘Prepared to Care?’ 2013 a ganfu bod 75 o ofalwyr heb fod yn barod am rôl ofalu ac nid oedd 81 y cant yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael, sy'n aml yn golygu bod gofalwyr yn teimlo'n agored i niwed ac yn ynysig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth i annog hunan-nodi a mynediad i gymorth a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o rôl gofalwyr;
b) datblygu gwybodaeth i gyflogwyr gynorthwyo gweithwyr sy'n ceisio cael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u rolau gofalu; ac
c) gweithio gyda darparwyr addysg i gynnig darpariaeth mwy hyblyg i alluogi gofalwyr o bob oed i gael mynediad i gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
11 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.15
6 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.15
NDM5523 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Datganoli: Ysgogwr Arloesedd
Sut y mae datganoli wedi rhoi'r cyfle i ddatblygu mesurau arloesol yng Nghymru a sut y mae elfennau arloesol o'r fath wedi dylanwadu ar weddill y DU.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.36
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2014